Llesiant

  • Roedd astudiaeth gan UNICEF i lesiant mewn plentyndod yn y Deyrnas Unedig, Sbaen a Sweden yn edrych ar y ffactorau sy’n cyfrannu, ym marn plant, at eu hapusrwydd. Ynghyd ag amser gyda’r teulu, crybwyllwyd amser allan yn yr awyr agored yn gyson ar draws y tair gwlad. ‘Roedd plant llawer yn fwy tebygol o siarad am yr awyr agored a champau actif eraill…na chrybwyll teledu, defnyddio’r rhyngrwyd neu chwarae gêmau cyfrifiadurol fel rhan o ddiwrnod da.’ (1).
  • Mewn adroddiad yn ‘Natural Childhood’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, crybwyllir arolwg yn 2011 a ddatgelodd fod 80% o’r bobl a riportiodd y lefelau uchaf o hapusrwydd yn y Deyrnas Unedig yn dweud bod ganddynt gysylltiad cryf â’r byd naturiol, o gymharu â llai na 40% o’r rheiny oedd fwyaf anhapus.(2)
  • Dangosodd astudiaeth gan Wells & Evans (2003) fod amser ym myd natur yn gostwng straen ac yn cynyddu ymdeimlad o hunanwerth ymhlith plant a oedd wedi dioddef straen yn eu bywydau.(3).
  • Mae Cymdeithas y Plant, mewn cydweithrediad â’r New Economics Foundation, yn argymell Pum Llwybr at Lesiant i blant ac oedolion ifainc. Dyma yw’r pum peth hynny: cysylltu, cadw i ddysgu, bod yn actif, cymryd sylw, bod yn greadigol a chwarae . Gellir cyflawni pob un o’r rhain trwy gyfuniad o weithgarwch strwuthuredig ac anstrwythuredig yn yr awyr agored. (4).

 

  1. Nairn A (2011) ‘Children’s Well-being in UK, Sweden and Spain: The Role of Inequality and Materialism’. Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol Ipsos MORI ar gyfer UNICEF. Tudalen 29.
  2. Reynolds, F (2011) ‘People and Nature: A paper from Fiona Reynolds to the Ministerial Advisory Panel of NEWP.’ Dyfyniad yn ‘Natural Childhood’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tudalen 8.
  3. Wells, N & Evans,G (2003) dyfyniad yn Bird, W (2007) ‘Natural Thinking: Investigating the Links between the Natural Environment, Biodiversity and Mental Health’. RSPB. Cyhoeddiad Cyntaf. Tudalennau 40-45, 80.
  4. www.childrenssociety.org.uk/ways-to-well-being

 

Nerth emosiynol

  • Daeth Thompson & Ward (2006)(1) i’r casgliad fod profiad yn yr awyr agored yn cyfrannu at ddatblygiad hunanddelwedd bositif. Maent yn mynd ymlaen i ddweud ‘Gall hyder yn eich gallu a’ch profiad o ddelio gydag ansicrwydd fod yn bwysig i helpu pobl ifanc wynebu’r byd ehangach a datblygu gwell sgiliau cymdeithasol.’
  • Mewn astudiaeth gan Pretty et al (2007) (2) gwelwyd bod gwelliant sylweddol yn hunanbarch plant ar ôl gosod cwrs cyfeiriadu i’w hannog i ymgysylltu â gofod gwyrdd. Daeth yr astudiaeth hefyd i’r casgliad fod ‘Wynebu heriau mewn diffeithwch yn rhoi profiad o lwyddiant dyddiol i gyfranogwyr sy’n helpu herio hen gredoau negyddol ac yn gwneud iddynt edrych ar eu hunain mewn ffordd newydd, fwy positif a realistig…Mae hunanbarch a hwyl yn ddangosyddion pwysig ar gyfer llesiant presennol a llesiant yn y dyfodol ac felly’n effeithio ar lwybrau bywyd oedolion a phlant.’(pp 22, 26).
  • Daeth Pretty et.al (2009) hefyd i’r casgliad fod chwarae’n rhydd ym myd natur ar oed ifanc yn gallu cyfrannu at ddarogan dewisiadau yn y ffordd o fyw fel oedolyn. Er neghraifft, roedd y rheiny a gafodd blentyndod yn llawn rhyddid yn yr awyr agored yn dueddol o ymgysylltu’n fwy â lleoedd naturiol, bod yn actif a meithrin cysylltiad â phobl a’r gymdeithas, bwyta bwydydd iach, bod yn aelodau o grwpiau a gwirfoddoli’n fwy(3).
  1. Thompson & Ward (2006) dyfyniad yn RSPB ‘Every Child Outdoors Wales: Children Need Nature. Nature Needs Children’. Tudalen 4.
  2. Pretty et al. (2007)’ Nature, Childhood, Health and Life Pathways’. Tudalennau 22, 26. http://www.lotc.org.uk/wp-content/uploads/2011/04/Nature-Childhood-and-Health-iCES-Occ-Paper-2009-2-FINAL.-1-.pdfUniversity of Essex 2009.
  3. Pretty et al (2009) dyfyniad yn RSPB ‘Every Child Outdoors: Children Need Nature. Nature Needs Children’. Tudalen 8.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *