Amdanom Ni
Amdanom ni
Datblygodd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS) o ganlyniad i Gymuned Dysgu Proffesiynol a ffurfiwyd yn Sir Benfro yn 2010. Roedd y Gymuned Dysgu Proffesiynol yn cynnwys penaethiaid, athrawon, ymgynghorwyr yr awdurdod lleol a phartneriaid strategol allweddol. Ers hynny, mae wedi tyfu yn bartneriaeth ddeinamig sy’n dod â gwybodaeth ac arbenigedd helaeth at ei gilydd.
Ein Partneriaid
![]() | Mae gan dîmau Darganfod a Pharcmyn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfoeth o brofiad ac arbenigedd wrth ddarparu dysgu awyr agored sy'n ddiddorol, yn ddiogel ac yn hwyl, ar draws safleoedd yn y parc ac mewn ysgolion. |
![]() | Nod Profiad Darwin Dragon LNG yw gweithio gyda phob ysgol yn Sir Benfro bob blwyddyn. Mae'r tîm yn cynnal teithiau maes a gweithdai ar destunau niferus sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. |
![]() | Cred Cadw Cymru'n Daclus yn gryf fod ei rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli disgyblion ac yn eu grymuso i fod yn arweinwyr newid yn eu cymunedau, a'i bod yn ehangu dysgu tu hwnt i'r ystafell ddosbarth er mwyn datblygu agweddau cyfrifol ac ymrwymiad, gartref ac yn y gymuned ehangach. |
![]() | Mae Chwaraeon Sir Benfro'n gweithio mewn ysgolion ar draws y sir i hybu brwdfrydedd ynghylch iechyd a ffitrwydd trwy raglenni arloesol. |
![]() | Mae'r ‘Ysgol Iach’ yn un sy'n cymryd cyfrifoldeb dros gynnal iechyd pawb sy'n ‘dysgu, yn gweithio ac yn chwarae’ ynddi ac yn ei hybu, trwy addysgu disgyblion yn ffurfiol sut i fyw bywydau iach ond hefyd trwy alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau ar amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd. |
![]() | Mae Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy'n cydnabod dysgu disgyblion a gwaith staff ym maes cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae ysgolion yn cynllunio'u gwaith tuag at y wobr ar sail wyth testun. Mae dysgu awyr agored yn chwarae rhan bwysig i sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn ystyrlon, yn ymgysylltu ac yn rhai go iawn. |
![]() | Mae Field Studies Council, FSC, yn elusen addysg amgylcheddol sy'n cynnig cyfleoedd addysgiadol a phleserus i bobl o bob oed a gallu ddarganfod yr amgylchedd, ei archwilio a'i ddeall. Cred FSC, po fwyaf am y byd o'n cwmpas yr ydym yn gwybod a pho fwyaf y cawn ein hysbrydoli ganddo, y mwyaf y gallwn werthfawrogi ei anghenion a gwarchod ei amrywiaeth a'i harddwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. |
![]() | Mae'r Ymddiriedoaleth Genedlaethol yn elusen sy'n gofalu am dirweddau ac adeiladau naturiol a hanesyddol er mwyn i bawb eu mwynhau. Gofynnwn i bawb gymryd yr addewid Amser Gwyllt a chyfnewid o leiaf 30 munud o amser sgrîn am 'amser gwyllt' bob dydd. |
![]() | Mae yna bryder eang ynghylch y ffordd y mae plant, pobl ifanc a'u teuluoedd wedi colli'r cysylltiad gyda tharddiad eu bwyd. Nod FACE yw bodloni'r anghenion addysgiadol hyn trwy weithio gyda'n haelodau a'n partneriaid i hybu ymweliadau â ffermydd, ac i roi mynediad hwylus at amrywiaeth eang o adnoddau a gweithgareddau addysgiadol o ansawdd uchel, i fynd law yn llaw gydag astudiaethau yn yr ysgol ac ymweliadau awyr agored. |
![]() | Cawn gefnogaeth a chyngor o du mewn i'r cyngor sir gan yr Ymgynghorwyr Her, Sally Abadioru a Lynne Kelleher, ac Ymgynghorwyr Her meysydd pwnc fel rhan o'n CDP. Y penaethiaid fu ynghlwm â'n sefydlu yw Kevin Phelps, Ysgol Gynradd Tafarnspite a Simon Thomas, Ysgol Gynradd Llandyfai. |
Mae ein cefnogwyr ariannol hollbwysig yn cynnwys:
![]() | ![]() | ![]() |
