Beth Ydym yn ei Gynnig
Beth Ydym yn ei Gynnig
- Mynediad at ddigwyddiadau DPP a HMS rhad ac am ddim i staff addysgu ar draws y sir a thu hwnt.
- Cyfleoedd i gydlynwyr pwnc ac athrawon gymryd rhan mewn Cymunedau Dysgu Proffesiynol sydd â ffocws ar ddysgu awyr agored.
- Adnoddau dwyieithog a syniadau ar gyfer gwersi sy’n deillio o Gymunedau Dysgu Proffesiynol, ar gael i’w lawrlwytho.
- Dewis o raglen strwythuredig o gymorth i ysgolion, mewn camau, i gefnogi ysgolion i newid diwylliant yr ysgol gyfan mewn perthynas â dysgu awyr agored.
- Cyfleoedd am gymorth ymarferol, cyngor a mewnbwn gan ein partneriaid.
- Cydnabyddiaeth a gwobrau am arfer arloesol a rhagorol.
- Olrhain newidiadau mewn llesiant, presenoldeb a deilliannau diwedd cyfnod.
Porwch drwy’r oriel i weld lluniau o’n digwyddiadau blaenorol.
