Pam bod Allan yn yr Awyr Agored?
Pam bod allan yn yr awyr agored?

Mae’n gwneud lles i chi fod allan yn yr awyr agored. Mae’n wych gwylio plant yn datblygu yn bobl ifanc sy’n gryf, yn heini, yn iach, yn caru’r awyr agored ac yn hyderus ynddo.
Gwelwyd dirywiad sylweddol yn yr amser y mae plant yn ei dreulio yn yr awyr agored dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Darllenwch fwy am y ffordd y mae tueddiadau’n newid mewn plentyndod yma.
“…Yet, at the moment that the bond is breaking between the young and the natural world, a growing body of research links our mental, physical, and spiritual health directly to our association with nature- in positive ways…we can now assume that just as children need good nutrition and adequate sleep, they may very well need contact with nature.”
– Richard Louv ‘The Last Child in the Woods’ tudalennau 2-3.
Y Sylfaen Dystiolaeth
Mae yna gorff sylweddol o dystiolaeth i gefnogi gwerth dysgu yn yr awyr agored mewn pedwar prif faes. Mae’r rhain yn perthyn i’w gilydd ac yn gorgyffwrdd.