Buddion Addysgol
Buddion Addysgol
Theori Adfer Sylw ac Ymddygiad
- Cynigiodd Kaplan (1995) Theori Adfer Sylw, ble mae natur yn gostwng blinder meddwl cyfeiriedig (1).
- ‘Yr amgylchedd naturiol yw’r amgylchedd mwyaf adferol ac mae’n galluogi’n hymennydd i adfer ac i ganolbwyntio’n uniongyrchol unwaith eto.’ Dr Bird (2007) (2).
- Mae Dr Bird yn nodi dros gant o bapurau ymchwil sy’n cefnogi rôl yr amgylchedd naturiol wrth adfer sylw. (3).
- Dangosodd Kuo a Sullivan (2001) fod modd lleddfu symptomau fel teimlo’n groendenau, ymddwyn yn fyrbwyll ac yn grac/ymosodol, trwy gyswllt gyda’r amgylchedd naturiol. (4).
- Gweler Bird, W (2007) Natural Thinking: Investigating the Links between the Natural Environment, Biodiversity and Mental Health. RSPB. Cyhoeddiad Cyntaf. Tudalen 39.
- Bird, W (2007) wedi’i ddyfynnu yn Dillon, J (2011) ‘Understanding the Diverse Benefits of Learning in Natural Environments. Coleg King’s, Llundain. Tudalen 9.
- Kuo FE & Sullivan WC (2001) Aggression and Violence in the Inner City: Effects of Environment via Mental Fatigue. Environment and Behaviour 33. Rhif 4. Gorffennaf 2001. Tudalennau 543-571.
- Kuo FE & Sullivan WC (2001) Environment and Crime in the Inner City. Does Vegetation Reduce Crime? Environment and Behaviour 33. 2001. Tudalen 343.
Arddulliau dysgu
- Adroddodd Swarbrick et al. (2004) y gwelwyd newid amlwg mewn hunan effeithiolrwydd a hunan werth wedi mabwysiadu dull ysgol y goedwig. Roedd ‘plant tawel yn gallu mynegi eu hunain yn well, gwelwyd cynnydd mewn hyder, a chyfranogiad positif o blith plant fyddai fel arfer yn tarfu ar y wers’. (1)
- Swarbrick et al. (2004) wedi’i ddyfynnu yn Dillon, J (2011) ‘Understanding the Diverse Benefits of Learning in Natural Environments. Coleg King’s, Llundain tudalen 9.
Anhwylder Gorfywiogrwydd Diffyg Canolbwyntio (ADHD)
- Dywed Bird (2007) fod ‘amser gwyrdd’ yn gallu chwarae rhan bwysig wrth helpu gostwng symptomau ADHD (1).
- Gall symptomau plant ag ADHD wella hyd at 30% trwy weithgareddau yn myd natur, o gymharu â gweithgareddau mewn lleoliad awyr agored trefol, a gwella deirgwaith o gymharu ag amgylchedd dan do.(2).
- Bird, W (2007) Natural Thinking: Investigating the Links between the Natural Environment, Biodiversity and Mental Health. RSPB. Cyhoeddiad Cyntaf tudalen 77.
- Faber Taylor et al. (2001) Coping with ADHD: The Surprising Connection to Green Play Settings. Environment and Behaviour. 33 (Jan 2001). Tudalennau 54-77.
Effeithiau Gwybyddol
- Cynhaliodd Rickenson et al. (2004), ar ran Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NfER), sef sefydliad sydd wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig, adolygiad cymheiriaid helaeth o ymchwil i ddysgu awyr agored. Daeth NfER(2004) i’r casgliad bod “gwaith maes yn gallu cael effaith bositif ar y cof hirdymor oherwydd natur gofiadwy y lleoliad gwaith maes…Mae yna atgyfnerthu’n digwydd rhwng yr affeithiol a’r gwybyddol, gyda’r naill yn dylanwadu ar y llall ac yn darparu pont at ddysgu trefn uwch” tudalen 34 (1).
- Adroddodd NfER (2004) ynghylch nifer o astudiaethau a oedd yn cynnig tystiolaeth meintiol a thystiolaeth o hanesion penodol, ar gyfer gwell cyrhaeddiad o ganlyniad i ymgysylltiad â phrosiectau ar dir yr ysgol. Er enghraifft, roedd astudiaeth gan SEER (California State Education and Environment Roundtable) yn cymharu ysgolion fu’n dilyn cyfran sylweddol o’u cwricwlwm mewn cyd-destun naturiol, cymunedol neu leol a oedd yn defnyddio cyfarwyddyd yn seiliedig ar broblem a dulliau â’r dysgwr yn y canol, gyda’r rheiny a oedd wedi dysgu trwy ddull traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth. Gwelwyd po fwyaf o sesiynau yr oedd yr ysgol wedi’u cynnal tu allan i’r ystafell ddosbarth, yr uchaf oedd eu sgôr mewn darllen, gwyddoniaeth a mathemateg. Roedd eu cyfraddau presenoldeb hefyd yn uwch ynghyd â’u cyfartaleddau pwyntiau gradd (dull o fesur cyrhaeddiad academaidd yn yr Unol Daleithiau). (2).
- Daeth NfER (2004) i’r casgliad ‘Er gwaethaf tystiolaeth sylweddol o botensial gwaith maes i godi safonau cyrhaeddiad a gwella agweddau tuag at yr amgylchedd, mae yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod y gwaith maes sy’n cymryd lle yn y Deyrnas Unedig, ac yn rhai ardaloedd eraill o’r byd, wedi’i gyfyngu’n sylweddol, yn enwedig mewn gwyddoniaeth’. (3).
- NfER(2004) ‘A Review of Research on Outdoor Learning.’ tudalen 24.
- NfER(2004) ‘A Review of Research on Outdoor Learning.’ tudalen 34.
- NfER (2004) ‘A Review of Research on Outdoor Learning.’ tudalen 5.
Sgiliau Cymdeithasol
- Nododd Nundy (2001) yn ystod gwaith maes preswyl yn yr awyr agored, fod y tasgau gwaith tîm yr oedd y plant 10 ac 11 oed yn cymryd rhan ynddynt, yn cael effaith bositif ar eu sgiliau cydweithredu, rhinweddau arweinyddiaeth, dyfalbarhad, dibynadwyedd, menter ac ysgogiad.
- Nundy (2001) wedi’i ddyfynnu yn Dillon et al. (2005) ‘Engaging and Learning with the Outdoors- The Final Report of the Outdoor Classroom in a Rural Context Action Research Project.’ Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg. Tudalen 29.
Ymddygiad
- Mewn adroddiad gan Ofsted yn gwerthuso rôl dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth, roedd ymchwilwyr wedi darganfod ‘..Yn y mwyafrif o ysgolion yr ymwelwyd â hwy, roedd yna gred y gallai dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth helpu goresgyn ymddygiad anodd yn hytrach na’i fod yn ffactor risg ychwanegol. Roedd y disgyblion a’r myfyrwyr eu hunain yn cefnogi’r farn hon, gan ddweud mai un o atyniadau dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth oedd fod pawb yn ymddwyn yn dda am eu bod yn llawn ysgogiad ac yn actif. Mewn ystod eang o enghreifftiau o ddysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth a welwyd tu allan i’r ystafell ddosbarth, ni welodd yr arolygwyr unrhyw beth ond ymddygiad da neu dda iawn.’ Roedd hyn yn adleisio adroddiad cynharach gan Ofsted a ddangosodd fod agweddau disgyblion, a’u hymddygiad, yn ystod gweithgareddau awyr agored neu anturus yn dda ac yn aml yn rhagorol ‘gydag ymatebion aeddfed i sefyllfaoedd heriol’. (1)
- Adroddodd Kaplan (1995) fod 50% yn llai o drosedd a thrais yn y cartref mewn teuluoedd a oedd yn gallu gweld llystyfiant yn eu golygfa, o gymharu â’r rheiny heb olygfa o lystyfiant. Dengys hyn y berthynas gref rhwng amgylcheddau naturiol, hwyliau ac ymddygiad. (5)
- Ofsted (2008) ‘Learning Outside the Classroom. How far should you go?’ HM Inspectorate for Schools in England.
- Kaplan, S (1995) wedi’i ddyfynnu yn Dillon, J (2011) ‘Understanding the Diverse Benefits of Learning in Natural Environments. Coleg King’s, Llundain. Tudalen 8.
Creadigrwydd
- Mae ymchwilwyr wedi gweld bod chwarae plant mewn amgylcheddau naturiol yn fwy amrywiol, dychmygus a chreadigol na chwarae plant mewn lleoliadau eraill (Cobb, 1977; Faber Taylor et al, 1998) a bod chwarae creadigol yn annog datblygiad iaith, sgiliau cymdeithasol a chydweithio (Fjortoft & Sageie, 2000; Moore & Wong, 1997). (1)
- Dyfyniad o Strife & Downey (2011) Childhood Development and Access to Nature. A New Direction in Environmental Inequality Research. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3162362/