Pecyn Cymorth Dysgu Awyr Agored
Pecyn Cymorth Dysgu Awyr Agored
Pa adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau Ysgolion Awyr Agored?
Bydd hyn yn dibynnu ar natur y gweithgareddau y byddwch yn eu cynnal, a’r math o gynefin y byddwch yn ymweld ag ef. Byddai pecyn sylfaenol o offer ar gyfer dysgu awyr agored yn cynnwys y canlynol:
- Bag argyfwng melyn yr ALl
- Ffôn symudol
- Bocs cymorth cyntaf
- Matiau mewn bag matiau (dewisol)
- Byrbryd i roi egni
- Potel ddŵr neu fflasg ar gyfer diod poeth mewn tywydd oer
- Dillad sbâr i’r disgyblion
- Unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen ar blant sy’n dod gyda chi
- Papur, pensiliau ayb. (Bocs Syniadau Gwell)
- Siartiau adnabod
- Hambyrddau casglu gwyn
- Chwyddwydrau
- Camera Digidol
- Teclynnau recordio Easispeak
- Darn o raff
- Cysgod mewn argyfwng.
Sut allwn ni sicrhau nad yw’n gweithgareddau Ysgolion Awyr Agored yn niweidio’r amgylchedd naturiol?
Un nod sydd gan Ysgolion Awyr Agored yw rhoi balchder mawr â pherchnogaeth i blant dros eu hardaloedd lleol, ynghyd â pharodrwydd i amddiffyn yr amgylchedd, fel y gall cenedlaethau i ddod eu mwynhau. Mae’n bwysig iawn cymryd gofal mawr dros yr amgylchedd trwy gydol yr holl weithgareddau Ysgolion Awyr Agored.
Da chi, dilynwch y rheolau canlynol:
- Dylech fynd ag unrhyw sbwriel yn ôl i’r ysgol ar ôl pob sesiwn.
- Ni ddylech adael unrhyw sbwriel ar y safle.
- Byddwch y ofalus iawn i beidio â dychryn bywyd gwyllt na niweidio unrhyw greaduriaid bychan.
- Byddwch yn wyliadwrus ynghylch adar sy’n nythu.
- Cerddwch yn ofalus mewn ardaloedd ble mae blodau newydd, fel clychau’r gog, yn saethu i fyny.
- Da chi, peidiwch â dod â bywyd gwyllt yn ôl i’r ysgol gyda chi. Maen nhw’n cael mwy o fudd o’r man lle cawsoch hyd iddynt.
- Wedi i chi archwilio cynefinoedd (e.e. dan foncyffion), sicrhewch eich bod yn gadael y cynefinoedd ble maen nhw, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y bywyd gwyllt.
- Cofiwch: Gadewch ddim ond ôl eich traed, cymerwch ddim heblaw lluniau!