Amdanom ni

Sefydlwyd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS) gan y penaethiaid Simon Thomas a Kevin Phelps, a ddatblygodd wedyn yn Gymuned Ddysgu Broffesiynol (PLC) yn Sir Benfro yn 2010. Roedd y gymuned ddysgu broffesiynol yn cynnwys penaethiaid, athrawon, ymgynghorwyr awdurdodau lleol a phartneriaid strategol allweddol. Ers hynny mae wedi tyfu i fod yn bartneriaeth ddeinamig sy’n dod ag ystod amrywiol o bartneriaid ynghyd yn lleol ac yn genedlaethol.

Beth Ydym yn ei Gynnig

  • Mynediad at ddigwyddiadau DPP a HMS rhad ac am ddim i staff addysgu ar draws y sir a thu hwnt.
  • Cyfleoedd i gydlynwyr pwnc ac athrawon gymryd rhan mewn Cymunedau Dysgu Proffesiynol sydd â ffocws ar ddysgu awyr agored.
  • Adnoddau dwyieithog a syniadau ar gyfer gwersi sy’n deillio o Gymunedau Dysgu Proffesiynol, ar gael i’w lawrlwytho.
  • Dewis o raglen strwythuredig o gymorth i ysgolion, mewn camau, i gefnogi ysgolion i newid diwylliant yr ysgol gyfan mewn perthynas â dysgu awyr agored.
  • Cyfleoedd am gymorth ymarferol, cyngor a mewnbwn gan ein partneriaid.
  • Cydnabyddiaeth a gwobrau am arfer arloesol a rhagorol.
  • Olrhain newidiadau mewn llesiant, presenoldeb a deilliannau diwedd cyfnod.

Ein Partneriaid

Mae gan dîmau Darganfod a Pharcmyn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfoeth o brofiad ac arbenigedd wrth ddarparu dysgu awyr agored sy'n ddiddorol, yn ddiogel ac yn hwyl, ar draws safleoedd yn y parc ac mewn ysgolion.

Mae Ysgol Tafarnspite yn falch iawn o fod yr ‘Ysgol Awyr Agored Sir Benfro’ gyntaf. Mae PODS yn fenter wych sy'n cynnig cyngor a chymorth o ansawdd uchel i ysgolion. Byddem yn annog unrhyw ysgol i ddefnyddio PODS fel ffordd o wella a datblygu eu defnydd o ddysgu yn yr awyr agored i gefnogi ei phobl ifanc.

Ysgol Gynradd Llandyfái yw un o'r aelodau a sefydlodd yn natblygiad Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro. Mae'r Pennaeth a'r staff yn falch o barhau i gynnig cyngor a chefnogaeth i gydweithwyr yn genedlaethol.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod chwarae yn hollbwysig i iechyd, lles a gwytnwch plant. Mae Chwarae Sir Benfro yn deall ac yn hyrwyddo’n llwyr yr hawl i blant chwarae yn yr ysgol, gartref, yn eu cymunedau, y tu allan, gyda ffrindiau ac ar eu pennau eu hunain. Gweledigaeth Chwarae Sir Benfro ar gyfer dyfodol chwarae yw datblygu cyfleoedd chwarae rheolaidd, cynaliadwy, arloesol a chwbl gynhwysol.

Nod Profiad Darwin Dragon LNG yw gweithio gyda phob ysgol yn Sir Benfro bob blwyddyn. Mae'r tîm yn cynnal teithiau maes a gweithdai ar destunau niferus sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

Gan Gyngor Sir Penfro (CSP) rydym yn cael ein cefnogi a'n cynghori gan y Tîm Addysg; Cynghorydd Blynyddoedd Cynnar Judith Billing, Cynghorydd Her Sian Rowles, Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol Kelly Hamid.

Mae'r Ymddiriedoaleth Genedlaethol yn elusen sy'n gofalu am dirweddau ac adeiladau naturiol a hanesyddol er mwyn i bawb eu mwynhau. Gofynnwn i bawb gymryd yr addewid Amser Gwyllt a chyfnewid o leiaf 30 munud o amser sgrîn am 'amser gwyllt' bob dydd.

Mae Field Studies Council, FSC, yn elusen addysg amgylcheddol sy'n cynnig cyfleoedd addysgiadol a phleserus i bobl o bob oed a gallu ddarganfod yr amgylchedd, ei archwilio a'i ddeall. Cred FSC, po fwyaf am y byd o'n cwmpas yr ydym yn gwybod a pho fwyaf y cawn ein hysbrydoli ganddo, y mwyaf y gallwn werthfawrogi ei anghenion a gwarchod ei amrywiaeth a'i harddwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Cynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy'n cydnabod dysgu disgyblion a gwaith staff ym maes cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae ysgolion yn cynllunio'u gwaith tuag at y wobr ar sail wyth testun. Mae dysgu awyr agored yn chwarae rhan bwysig i sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn ystyrlon, yn ymgysylltu ac yn rhai go iawn.

Cred Cadw Cymru'n Daclus yn gryf fod ei rhaglen Eco-Sgolion yn ysbrydoli disgyblion ac yn eu grymuso i fod yn arweinwyr newid yn eu cymunedau, a'i bod yn ehangu dysgu tu hwnt i'r ystafell ddosbarth er mwyn datblygu agweddau cyfrifol ac ymrwymiad, gartref ac yn y gymuned ehangach.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad sector cyhoeddus a phrif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd naturiol. Cefnogir PODS gan Dîm Iechyd ac Addysg CNC a’i rôl yw sicrhau bod pobl yn gallu cael yr holl fuddion llesiant y gall yr amgylchedd naturiol eu darparu i ni trwy ddysgu ynddo, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer.

Mae'r ‘Ysgol Iach’ yn un sy'n cymryd cyfrifoldeb dros gynnal iechyd pawb sy'n ‘dysgu, yn gweithio ac yn chwarae’ ynddi ac yn ei hybu, trwy addysgu disgyblion yn ffurfiol sut i fyw bywydau iach ond hefyd trwy alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau ar amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod chwarae yn hollbwysig i iechyd, lles a gwytnwch plant. Mae Chwarae Sir Benfro yn deall ac yn hyrwyddo’n llwyr yr hawl i blant chwarae yn yr ysgol, gartref, yn eu cymunedau, y tu allan, gyda ffrindiau ac ar eu pennau eu hunain. Gweledigaeth Chwarae Sir Benfro ar gyfer dyfodol chwarae yw datblygu cyfleoedd chwarae rheolaidd, cynaliadwy, arloesol a chwbl gynhwysol.

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Forol (ACA) Sir Benfro yn gweithio i reoli safleoedd morol i gynnal a gwella bywyd gwyllt morol yr ardal honno. Mae codi ymwybyddiaeth o sut y gall cynefinoedd a rhywogaethau morol a gweithgareddau dynol fodoli yn allweddol i waith ACA ac maent wedi cynhyrchu adnoddau dwyieithog ar gyfer ysgolion a grwpiau.

Mae Tir Coed yn cysylltu pobl â thir a choed drwy ddarparu rhaglenni hyfforddiant, dysgu a lles yn yr awyr agored. Mae Tir Coed yn cynnig sesiynau gweithgareddau, cyrsiau hyfforddi a gwirfoddoli yn y coetiroedd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.