Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro – Y stori hyd yma….
Sefydlwyd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn 2010 fel cydweithrediad rhwng y Gymuned Ddysgu Broffesiynol yn Sir Benfro (gan gynnwys penaethiaid, athrawon ac ymgynghorwyr awdurdodau lleol) a phartneriaid strategol allweddol gan gynnwys Darwin Science, Chwaraeon Sir Benfro, y Cyngor Astudiaethau Maes ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Nod y bartneriaeth oedd cefnogi ysgolion ac athrawon ar eu ‘taith dysgu awyr agored’, ac yn ystod ei blynyddoedd cyntaf fe wnaeth y partneriaid gyflwyno rhaglenni hyfforddiant athrawon, ‘sesiynau blasu’ ar gyfer dosbarthiadau ysgolion cynradd, a chwblhau’r gwaith o gyhoeddi llawlyfr Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.
Yn ystod y cyfnod hwn, cydnabuwyd bod gwaith y bartneriaeth yn arloesol ac yn enghraifft o arfer da ym maes dysgu awyr agored yng Nghymru. Yn 2011, fe wnaeth adroddiad gan Estyn dynnu sylw at waith Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn Ysgol Gynradd Tafarn Ysbyty fel enghraifft o arfer da mewn addysg. Yn fwy diweddar, fe wnaeth yr un sefydliad nodi effaith dysgu yn yr awyr agored wrth gyfrannu at safonau uchel mewn ysgolion. Mae Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn parhau i gael ei chydnabod fel partneriaeth arloesol ac yn enghraifft o arfer da, yn fwyaf diweddar (yn 2018) gan ESTYN mewn adroddiad ar waith Ysgol Gynradd Llandyfái yn Ne Sir Benfro. https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/sicrhau-addysgu-o-ansawdd-uchel-trwy-ddatblygiad-proffesiynol
Yn 2016, llwyddodd y bartneriaeth i gael cyllid gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Bluestone Foundation, a oedd yn golygu bod modd penodi Cydlynydd rhan-amser ar gyfer Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro. Gyda’r adnoddau ychwanegol a oedd ar gael, llwyddodd y bartneriaeth i ddatblygu gwefan annibynnol ar gyfer y gymuned dysgu awyr agored yn Sir Benfro gan gydweithio ag athrawon i greu adnoddau newydd ar gyfer dysgu. Gyda chefnogaeth Cydlynydd, llwyddodd y bartneriaeth i gyrraedd cynulleidfa ehangach i ‘hyrwyddo’r defnydd o’r awyr agored ar draws y Cwricwlwm Cenedlaethol i ddatblygu plant cryf, ffit ac iach sy’n gyfarwydd iawn â’r awyr agored ac sy’n deall pwysigrwydd lles corfforol ac emosiynol’.
Yn 2019, cytunodd y bartneriaeth i chwilio am gyllid ychwanegol i barhau â gwaith Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro a, gyda chymorth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Llywodraeth Cymru, sefydlwyd prosiect newydd. Mae dyfodiad Cwricwlwm newydd i Gymru wedi rhoi hwb newydd i’n gwaith, ac rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r gymuned addysgu yn Sir Benfro i ddarparu’r arfau angenrheidiol i ysgolion fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd dysgu cyffrous ar draws y cwricwlwm sy’n gysylltiedig ag elfennau o’u hamgylchedd awyr agored lleol. Mae’r cyfle i weithio gydag ymarferwyr dysgu yn yr awyr agored ledled y sir, gan rannu arbenigedd a darparu ar gyfer ein cymunedau dysgu lleol, yn allweddol i lwyddiant.
Mae’r prosiect wedi parhau i ddenu cyllid allanol ar gyfer ei waith, yn fwyaf diweddar drwy grant gan y Gronfa Loteri Cod Post.