Pam bod allan yn yr awyr agored?
Maeân gwneud lles i chi fod allan yn yr awyr agored. Maeân wych gwylio plant yn datblygu yn bobl ifanc syân gryf, yn heini, yn iach, yn caruâr awyr agored ac yn hyderus ynddo.
Gwelwyd dirywiad sylweddol yn yr amser y mae plant yn ei dreulio yn yr awyr agored dros yr ychydig ddegawdau diwethaf.Â
ââŚYet, at the moment that the bond is breaking between the young and the natural world, a growing body of research links our mental, physical, and spiritual health directly to our association with nature- in positive waysâŚwe can now assume that just as children need good nutrition and adequate sleep, they may very well need contact with nature.â
â Richard Louv âThe Last Child in the Woodsâ tudalennau 2-3.
Y Sylfaen Dystiolaeth
Mae yna gorff sylweddol o dystiolaeth i gefnogi gwerth dysgu yn yr awyr agored mewn pedwar prif faes. Maeâr rhain yn perthyn iâw gilydd ac yn gorgyffwrdd.- Mewn adroddiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2014, darganfuwyd bod 11.3% o blant yng Nghymru yn ordew. Daethpwyd iâr casgliad bod 26% o blant a oedd yn dechrau yn yr ysgol â Mynegai Mas y Corff (BMI) afiachus. Mae hyn 4% yn uwch naâr ffigur yn Lloegr (1).
- Un oâr prif ffactorau syân cyfrannu at hyn, ochr yn ochr â diet gwael, yw diffyg gweithgarwch corfforol. Meddai Cyfarwyddwr Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru, Dr Nadim Haboudi âMae gan blant gĂŞmau cyfrifiadurol ac iPads ac maen nhwân eistedd am oriauâ (2).
- Mewn astudiaeth gan Brifysgol Essex, gwelwyd bod dirywiad o 10% yn iechyd cardiofasgiwlar plant dros ddegawd(3). Riportiwyd gostyngiad hefyd yng ngallu plant i wneud ymarferion corfforol fel âsit-upsâ (4).
- Mae presenoldeb myopia (byrder golwg) ymhlith oedolion Ewropeaidd ifainc wedi dyblu dros yr hanner canrif diwethaf. Awgryma astudiaethau amrywiol mai mwy o amser yn yr awyr agored pan fydd golauâr haul yn llachar, ywâr ffordd o atal yr epidemig hwn(5).
- Darganfu Grahn et al. (1997) fod plant a fynychai gyfleuster gofal âallan yn yr awyr agored ymhob tywyddâ yn cymryd llai o ddiwrnodau o salwch oâu rhaglen naâu cyfoedion a fynychai gyfleuster gofal dydd trefol wediâi amgylchynu gan adeiladau tal(6).
- Mewn astudiaeth a gynhaliwyd gan Morris et al. (2002) gwelwyd bod cyfres o naw gweithgaredd a oedd yn cysylltu gweithgarwch garddio gydag addysg maeth, wedi arwain at newidiadau sylweddol i ymddygiad bwytaâr myfyrwyr ac wedi cynyddu ymwybyddiaeth oâr amgylchedd(7).
- Iechyd Cyhoeddus Cymru: Rhaglen Mesur Plentyndod Cymru. Adroddiad Blynyddol 2015.
- http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/677952Adroddiad gan Newyddion y BBC. Gorffennaf 31st 2014 âDros un o bob 10 o blant Cymruân dechrau yn yr ysgol yn ordewâ http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-
- Astudiaeth Prifysgol Essex; Adroddiad yn y Guardian Rhagfyr 22ain 2009. Dyfyniad yn adroddiad yr Ymddiriedoaleth Genedlaethol, âNatural Childhoodâ tudalen 5.
- Acta Paediatrica (2011); Adroddiad yn y Guardian Mai 21ain 2011.Dyfyniad yn Adroddiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, âNatural Childhoodâ p5.
- Adroddiad yn Nature. Mawrth 18fed 2015 âThe Myopia Boomâ http://www.nature.com/news/the-myopia-boom-1.17120
- Grahn et al. (1997) dyfyniad gan Rickenson et al. (2004) âA Review of Research on Outdoor Learningâ Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg a Choleg Kingâs, Llundainâ. Tudalen 40.
- Morris et al. (2002) dyfyniad gan Rickenson et al. (2004) âA Review of Research on Outdoor Learningâ Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg a Choleg Kingâs, Llundainâ. Tudalen 40.
- Dangosodd astudiaethau amrywiol fod treulio amser yn yr awyr agored, yn gwerthfawrogi natur, cyn 11 oed, yn darogan cred bositif yn yr amgylchedd yn y dyfodol. Dangosodd astudiaeth gan Bixler (2002) fod pobl ifanc yn eu harddegau, a oedd wedi chwarae mewn diffeithwch, â chanfyddiad mwy positif o amgylcheddau naturiol, gweithgareddau hamdden awyr agored ac amgylcheddau galwedigaethol awyr agored. Mewn astudiaeth o oedolion yn yr Almaen gan Ewert et al. (2005) gwelwyd bod y rheiny a oedd wedi cael mwy o gyswllt â natur fel plentyn yn dangos lefelau uwch o âddig yn erbyn diffyg amddiffyniad i naturâ. (1).
- Mae yna ddadl ynghylch y ffactorau syân angenrheidiol i feithrin agweddau positif at yr amgylchedd. Pwyntia rhai at bwysigrwydd chwaraeân rhydd. Dadl eraill yw fod ymwybyddiaeth/gwerthoedd amgylcheddol yn datblygu pan âgymerir mesurau penodol o fewn y profiad dysgu awyr agored i ganolbwyntio ar faterion oâr fathâ Dillon et al (2004). (2). Yn ymarferol, os yw plant yn cael y cyfle i elwa ar sesiynau strwythuredig ac anstrwythuredig mewn lleoliadau naturiol, yna mae canlyniadau positif yn debygol.
- Cynigiodd E.O Wilson y ddamcaniaeth bioffilia, sef bod cwlwm greddfol a chynhenid rhwng pobl a mathau eraill o fywyd. Yn ei gofiannau, dywed mai âprofiad ymarferol ar adeg allweddol, ac nid gwybodaeth systematig, syân cyfrif wrth greu naturiaethwr.â(3).
- D Orr, ac F Capra, oedd y cyntaf i fathuâr term âeco-lythrenneddâ yn y 1990au. Cyfeiria hyn at ââŚddeall egwyddorion trefniant cymunedau ecolegol a defnyddioâr egwyddorion hynny i greu cymunedau dynol cynaliadwy⌠Byddai cymdeithas eco-lythrennog yn gymdeithas sydd ddim yn dinistrioâr amgylchedd naturiol y maeân dibynnu arno.â Trwy astudio systemau naturiol, daw dealltwriaeth ddyfnach o ryngddibyniaeth systemau byw iâr amlwg. (4).
- Gweler Louv, R 2005 âLast Child in the Woods. Saving Our Children from Nature-Deficit Disorderâ. Algonquin Books of Chapel Hill. Tudalen 150.
- Gweler Bird, W & RSPB (2007) âNatural Thinking: Investigating the Links between the Natural Environment, Biodiversity and Mental Healthâ. Cyhoeddiad Cyntaf. Tudalen 53.
- Dillon et al (2004) âA Review of Research on Outdoor Learningâ. Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg a Choleg Kingâs, Llundain. Tudalennau 52.
- https://en.wikipedia.org/wiki/Ecological_literacy
Theori Adfer Sylw ac Ymddygiad
- Cynigiodd Kaplan (1995) Theori Adfer Sylw, ble mae natur yn gostwng blinder meddwl cyfeiriedig (1).
- âYr amgylchedd naturiol ywâr amgylchedd mwyaf adferol ac maeân galluogiân hymennydd i adfer ac i ganolbwyntioân uniongyrchol unwaith eto.â Dr Bird (2007) (2).
- Mae Dr Bird yn nodi dros gant o bapurau ymchwil syân cefnogi rĂ´l yr amgylchedd naturiol wrth adfer sylw. (3).
- Dangosodd Kuo a Sullivan (2001) fod modd lleddfu symptomau fel teimloân groendenau, ymddwyn yn fyrbwyll ac yn grac/ymosodol, trwy gyswllt gydaâr amgylchedd naturiol. (4).
- Gweler Bird, W (2007) Natural Thinking: Investigating the Links between the Natural Environment, Biodiversity and Mental Health. RSPB. Cyhoeddiad Cyntaf. Tudalen 39.
- Bird, W (2007) wediâi ddyfynnu yn Dillon, J (2011) âUnderstanding the Diverse Benefits of Learning in Natural Environments. Coleg Kingâs, Llundain. Tudalen 9.
- Kuo FE & Sullivan WC (2001) Aggression and Violence in the Inner City: Effects of Environment via Mental Fatigue. Environment and Behaviour 33. Rhif 4. Gorffennaf 2001. Tudalennau 543-571.
- Kuo FE & Sullivan WC (2001) Environment and Crime in the Inner City. Does Vegetation Reduce Crime? Environment and Behaviour 33. 2001. Tudalen 343.
Â
Arddulliau dysgu
- Adroddodd Swarbrick et al. (2004) y gwelwyd newid amlwg mewn hunan effeithiolrwydd a hunan werth wedi mabwysiadu dull ysgol y goedwig. Roedd âplant tawel yn gallu mynegi eu hunain yn well, gwelwyd cynnydd mewn hyder, a chyfranogiad positif o blith plant fyddai fel arfer yn tarfu ar y wersâ. (1)
- Swarbrick et al. (2004) wediâi ddyfynnu yn Dillon, J (2011) âUnderstanding the Diverse Benefits of Learning in Natural Environments. Coleg Kingâs, Llundain tudalen 9.
Â
Anhwylder Gorfywiogrwydd Diffyg Canolbwyntio (ADHD)
- Dywed Bird (2007) fod âamser gwyrddâ yn gallu chwarae rhan bwysig wrth helpu gostwng symptomau ADHD (1).
- Gall symptomau plant ag ADHD wella hyd at 30% trwy weithgareddau yn myd natur, o gymharu â gweithgareddau mewn lleoliad awyr agored trefol, a gwella deirgwaith o gymharu ag amgylchedd dan do.(2).
- Bird, W (2007) Natural Thinking: Investigating the Links between the Natural Environment, Biodiversity and Mental Health. RSPB. Cyhoeddiad Cyntaf tudalen 77.
- Faber Taylor et al. (2001) Coping with ADHD: The Surprising Connection to Green Play Settings. Environment and Behaviour. 33 (Jan 2001). Tudalennau 54-77.
Â
Effeithiau Gwybyddol
- Cynhaliodd Rickenson et al. (2004), ar ran Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NfER), sef sefydliad sydd wediâi leoli yn y Deyrnas Unedig, adolygiad cymheiriaid helaeth o ymchwil i ddysgu awyr agored. Daeth NfER(2004) iâr casgliad bod âgwaith maes yn gallu cael effaith bositif ar y cof hirdymor oherwydd natur gofiadwy y lleoliad gwaith maesâŚMae yna atgyfnerthuân digwydd rhwng yr affeithiol aâr gwybyddol, gydaâr naill yn dylanwadu ar y llall ac yn darparu pont at ddysgu trefn uwchâ tudalen 34 (1).
- Adroddodd NfER (2004) ynghylch nifer o astudiaethau a oedd yn cynnig tystiolaeth meintiol a thystiolaeth o hanesion penodol, ar gyfer gwell cyrhaeddiad o ganlyniad i ymgysylltiad â phrosiectau ar dir yr ysgol. Er enghraifft, roedd astudiaeth gan SEER (California State Education and Environment Roundtable) yn cymharu ysgolion fuân dilyn cyfran sylweddol oâu cwricwlwm mewn cyd-destun naturiol, cymunedol neu leol a oedd yn defnyddio cyfarwyddyd yn seiliedig ar broblem a dulliau ââr dysgwr yn y canol, gydaâr rheiny a oedd wedi dysgu trwy ddull traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth. Gwelwyd po fwyaf o sesiynau yr oedd yr ysgol wediâu cynnal tu allan iâr ystafell ddosbarth, yr uchaf oedd eu sgĂ´r mewn darllen, gwyddoniaeth a mathemateg. Roedd eu cyfraddau presenoldeb hefyd yn uwch ynghyd ââu cyfartaleddau pwyntiau gradd (dull o fesur cyrhaeddiad academaidd yn yr Unol Daleithiau). (2).
- Daeth NfER (2004) iâr casgliad âEr gwaethaf tystiolaeth sylweddol o botensial gwaith maes i godi safonau cyrhaeddiad a gwella agweddau tuag at yr amgylchedd, mae yna dystiolaeth syân awgrymu bod y gwaith maes syân cymryd lle yn y Deyrnas Unedig, ac yn rhai ardaloedd eraill oâr byd, wediâi gyfynguân sylweddol, yn enwedig mewn gwyddoniaethâ. (3).
- NfER(2004) âA Review of Research on Outdoor Learning.â tudalen 24.
- NfER(2004) âA Review of Research on Outdoor Learning.â tudalen 34.
- NfER (2004) âA Review of Research on Outdoor Learning.â tudalen 5.
Â
Sgiliau Cymdeithasol
- Nododd Nundy (2001) yn ystod gwaith maes preswyl yn yr awyr agored, fod y tasgau gwaith tĂŽm yr oedd y plant 10 ac 11 oed yn cymryd rhan ynddynt, yn cael effaith bositif ar eu sgiliau cydweithredu, rhinweddau arweinyddiaeth, dyfalbarhad, dibynadwyedd, menter ac ysgogiad.
- Nundy (2001) wediâi ddyfynnu yn Dillon et al. (2005) âEngaging and Learning with the Outdoors- The Final Report of the Outdoor Classroom in a Rural Context Action Research Project.â Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg. Tudalen 29.
Â
Ymddygiad
- Mewn adroddiad gan Ofsted yn gwerthuso rĂ´l dysgu tu allan iâr ystafell ddosbarth, roedd ymchwilwyr wedi darganfod â..Yn y mwyafrif o ysgolion yr ymwelwyd â hwy, roedd yna gred y gallai dysgu tu allan iâr ystafell ddosbarth helpu goresgyn ymddygiad anodd yn hytrach naâi fod yn ffactor risg ychwanegol. Roedd y disgyblion aâr myfyrwyr eu hunain yn cefnogiâr farn hon, gan ddweud mai un o atyniadau dysgu tu allan iâr ystafell ddosbarth oedd fod pawb yn ymddwyn yn dda am eu bod yn llawn ysgogiad ac yn actif. Mewn ystod eang o enghreifftiau o ddysgu tu allan iâr ystafell ddosbarth a welwyd tu allan iâr ystafell ddosbarth, ni welodd yr arolygwyr unrhyw beth ond ymddygiad da neu dda iawn.â Roedd hyn yn adleisio adroddiad cynharach gan Ofsted a ddangosodd fod agweddau disgyblion, aâu hymddygiad, yn ystod gweithgareddau awyr agored neu anturus yn dda ac yn aml yn rhagorol âgydag ymatebion aeddfed i sefyllfaoedd heriolâ. (1)
- Adroddodd Kaplan (1995) fod 50% yn llai o drosedd a thrais yn y cartref mewn teuluoedd a oedd yn gallu gweld llystyfiant yn eu golygfa, o gymharu ââr rheiny heb olygfa o lystyfiant. Dengys hyn y berthynas gref rhwng amgylcheddau naturiol, hwyliau ac ymddygiad. (5)
- Ofsted (2008) âLearning Outside the Classroom. How far should you go?â HM Inspectorate for Schools in England.
- Kaplan, S (1995) wediâi ddyfynnu yn Dillon, J (2011) âUnderstanding the Diverse Benefits of Learning in Natural Environments. Coleg Kingâs, Llundain. Tudalen 8.
Â
Creadigrwydd
- Mae ymchwilwyr wedi gweld bod chwarae plant mewn amgylcheddau naturiol yn fwy amrywiol, dychmygus a chreadigol na chwarae plant mewn lleoliadau eraill (Cobb, 1977; Faber Taylor et al, 1998) a bod chwarae creadigol yn annog datblygiad iaith, sgiliau cymdeithasol a chydweithio (Fjortoft & Sageie, 2000; Moore & Wong, 1997). (1)
- Dyfyniad o Strife & Downey (2011) Childhood Development and Access to Nature. A New Direction in Environmental Inequality Research. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3162362/
- Roedd astudiaeth gan UNICEF i lesiant mewn plentyndod yn y Deyrnas Unedig, Sbaen a Sweden yn edrych ar y ffactorau syân cyfrannu, ym marn plant, at eu hapusrwydd. Ynghyd ag amser gydaâr teulu, crybwyllwyd amser allan yn yr awyr agored yn gyson ar draws y tair gwlad. âRoedd plant llawer yn fwy tebygol o siarad am yr awyr agored a champau actif eraillâŚna chrybwyll teledu, defnyddioâr rhyngrwyd neu chwarae gĂŞmau cyfrifiadurol fel rhan o ddiwrnod da.â (1).
- Mewn adroddiad yn âNatural Childhoodâ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, crybwyllir arolwg yn 2011 a ddatgelodd fod 80% oâr bobl a riportiodd y lefelau uchaf o hapusrwydd yn y Deyrnas Unedig yn dweud bod ganddynt gysylltiad cryf ââr byd naturiol, o gymharu â llai na 40% oâr rheiny oedd fwyaf anhapus.(2)
- Dangosodd astudiaeth gan Wells & Evans (2003) fod amser ym myd natur yn gostwng straen ac yn cynyddu ymdeimlad o hunanwerth ymhlith plant a oedd wedi dioddef straen yn eu bywydau.(3).
- Mae Cymdeithas y Plant, mewn cydweithrediad ââr New Economics Foundation, yn argymell Pum Llwybr at Lesiant i blant ac oedolion ifainc. Dyma ywâr pum peth hynny: cysylltu, cadw i ddysgu, bod yn actif, cymryd sylw, bod yn greadigol a chwarae . Gellir cyflawni pob un oâr rhain trwy gyfuniad o weithgarwch strwuthuredig ac anstrwythuredig yn yr awyr agored. (4).
- Nairn A (2011) âChildrenâs Well-being in UK, Sweden and Spain: The Role of Inequality and Materialismâ. Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol Ipsos MORI ar gyfer UNICEF. Tudalen 29.
- Reynolds, F (2011) âPeople and Nature: A paper from Fiona Reynolds to the Ministerial Advisory Panel of NEWP.â Dyfyniad yn âNatural Childhoodâ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tudalen 8.
- Wells, N & Evans,G (2003) dyfyniad yn Bird, W (2007) âNatural Thinking: Investigating the Links between the Natural Environment, Biodiversity and Mental Healthâ. RSPB. Cyhoeddiad Cyntaf. Tudalennau 40-45, 80.
- www.childrenssociety.org.uk/ways-to-well-being
- Daeth Thompson & Ward (2006)(1) iâr casgliad fod profiad yn yr awyr agored yn cyfrannu at ddatblygiad hunanddelwedd bositif. Maent yn mynd ymlaen i ddweud âGall hyder yn eich gallu aâch profiad o ddelio gydag ansicrwydd fod yn bwysig i helpu pobl ifanc wynebuâr byd ehangach a datblygu gwell sgiliau cymdeithasol.â
- Mewn astudiaeth gan Pretty et al (2007) (2) gwelwyd bod gwelliant sylweddol yn hunanbarch plant ar Ă´l gosod cwrs cyfeiriadu iâw hannog i ymgysylltu â gofod gwyrdd. Daeth yr astudiaeth hefyd iâr casgliad fod âWynebu heriau mewn diffeithwch yn rhoi profiad o lwyddiant dyddiol i gyfranogwyr syân helpu herio hen gredoau negyddol ac yn gwneud iddynt edrych ar eu hunain mewn ffordd newydd, fwy positif a realistigâŚMae hunanbarch a hwyl yn ddangosyddion pwysig ar gyfer llesiant presennol a llesiant yn y dyfodol ac fellyân effeithio ar lwybrau bywyd oedolion a phlant.â(pp 22, 26).
- Daeth Pretty et.al (2009) hefyd iâr casgliad fod chwaraeân rhydd ym myd natur ar oed ifanc yn gallu cyfrannu at ddarogan dewisiadau yn y ffordd o fyw fel oedolyn. Er neghraifft, roedd y rheiny a gafodd blentyndod yn llawn rhyddid yn yr awyr agored yn dueddol o ymgysylltuân fwy â lleoedd naturiol, bod yn actif a meithrin cysylltiad â phobl aâr gymdeithas, bwyta bwydydd iach, bod yn aelodau o grwpiau a gwirfoddoliân fwy(3).
-
- Thompson & Ward (2006) dyfyniad yn RSPB âEvery Child Outdoors Wales: Children Need Nature. Nature Needs Childrenâ. Tudalen 4.
- Pretty et al. (2007)â Nature, Childhood, Health and Life Pathwaysâ. Tudalennau 22, 26. http://www.lotc.org.uk/wp-content/uploads/2011/04/Nature-Childhood-and-Health-iCES-Occ-Paper-2009-2-FINAL.-1-.pdfUniversity of Essex 2009.
- Pretty et al (2009) dyfyniad yn RSPB âEvery Child Outdoors: Children Need Nature. Nature Needs Childrenâ. Tudalen 8.