HAFAN
Croeso i Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro!
Beth yw Ysgol Awyr Agored?
Mae Ysgol Awyr Agored yn addysgu disgyblion i ymgysylltu’n llwyr â’u hamgylchedd lleol ac i fod yn hyderus ynddo. Trwy ymweld â’u hardaloedd awyr agored yn rheolaidd, mae’r plant yn datblygu ymdeimlad cryf o lesiant ac yn mwynhau gweithgarwch corfforol. Maen nhw’n meithrin gwybodaeth ddefnyddiol o ecoleg a chynaliadwyedd, ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu trwy rannu’r wybodaeth hon gydag eraill.
Amcanion Ysgol Awyr Agored:
- Datblygu ymdeimlad plant o lesiant trwy weithgareddau rheolaidd yn eu hamgylchedd lleol.
- Sicrhau bod plant yn hyderus ac yn ymgysylltu’n llwyr â’u hamgylchedd awyr agored.
- Datblygu dyhead plant i fod yn ffit ac yn actif yn yr awyr agored.
- Datblygu gwybodaeth plant o ecoleg eu hardal leol.
- Datblygu gwybodaeth plant o gynaliadwyedd yng ngyd-destun eu hamgylchedd lleol a’u dealltwriaeth ohono.
- Datblygu sgiliau cyfathrebu trwy rannu eu gwybodaeth gydag eraill.