Offer angenrheidiol –
- Hambwrdd ia neu gynwysyddion
- Hambwrdd ‘twff’ neu hambwrdd/bocs plastig
- Adnoddau naturiol i’w gosod mewn ia e.e. blodau neu deganau bach plastig
- Morthwylion
- Caniau dŵr
- Brwsys paent
Cam wrth gam –
- Casglwch rai hambyrddau ia/cynwysyddion y gellir eu rhewi, teganau plastig, blodau a lliw bwyd
- Rhowch eich eitemau mewn cynwysyddion o faint gwahanol
- Os ydych chi’n defnyddio lliw bwyd, nawr yw’r amser i’w gymysgu â dŵr
- Ychwanegwch y dŵr o liw gwahanol i’ch cynwysyddion, a’i arllwys dros yr eitemau rydych chi wedi’u hychwanegu
- Rhowch nhw yn y rhewgell dros nos
- Unwaith y byddan nhw wedi rhewi, gwagwch nhw i’ch hambwrdd/bocs a siaradwch am sut mae’r iâ yn teimlo.
- Helpwch y plant i doddi’r iâ drwy ddefnyddio cynhesrwydd eu dwylo a defnyddio dŵr a brwsys paent ychwanegol
- Gwyliwch eich teganau a’ch blodau cudd yn dod i’r amlwg