Chwarae gydag ia, ‘wedi’i orchuddio gydag ia’

Offer angenrheidiol –

  • Hambwrdd ia neu gynwysyddion
  • Hambwrdd ‘twff’ neu hambwrdd/bocs plastig
  • Adnoddau naturiol i’w gosod mewn ia e.e. blodau neu deganau bach plastig
  • Morthwylion
  • Caniau dŵr
  • Brwsys paent

Cam wrth gam –

  1. Casglwch rai hambyrddau ia/cynwysyddion y gellir eu rhewi, teganau plastig, blodau a lliw bwyd
  2. Rhowch eich eitemau mewn cynwysyddion o faint gwahanol
  3. Os ydych chi’n defnyddio lliw bwyd, nawr yw’r amser i’w gymysgu â dŵr
  4. Ychwanegwch y dŵr o liw gwahanol i’ch cynwysyddion, a’i arllwys dros yr eitemau rydych chi wedi’u hychwanegu
  5. Rhowch nhw yn y rhewgell dros nos
  6. Unwaith y byddan nhw wedi rhewi, gwagwch nhw i’ch hambwrdd/bocs a siaradwch am sut mae’r iâ yn teimlo.
  7. Helpwch y plant i doddi’r iâ drwy ddefnyddio cynhesrwydd eu dwylo a defnyddio dŵr a brwsys paent ychwanegol
  8. Gwyliwch eich teganau a’ch blodau cudd yn dod i’r amlwg
Facebook
Twitter
LinkedIn
WhatsApp
Email