Gweithgareddau cartref: – Plannu
Offer angenrheidiol –
- Hadau (berwr, salad), bylbiau, tatws had
- Rhaw
- Pridd
- Dŵr
- Potiau neu hen deiar
- Labeli
Cam wrth gam –
- Llenwch eich potyn/teiar gyda phridd
- Plannwch eich had, bwlb neu datws o ddewis a’u gorchuddio â phridd (bydd y swm yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n ei blannu, bydd wedi’i nodi ar y pecyn)
- Ychwanegwch eich label fel eich bod chi’n cofio beth wnaethoch chi ei blannu
- Rhowch ddigon o ddŵr i orffen
- Cofiwch gadw i roi digon o ddŵr wrth iddo dyfu
- Mwynhewch eich planhigyn cartref