Plannu a thyfu

Gweithgareddau cartref: – Plannu

Offer angenrheidiol –

  • Hadau (berwr, salad), bylbiau, tatws had
  • Rhaw
  • Pridd
  • Dŵr
  • Potiau neu hen deiar
  • Labeli

Cam wrth gam –

  1. Llenwch eich potyn/teiar gyda phridd
  2. Plannwch eich had, bwlb neu datws o ddewis a’u gorchuddio â phridd (bydd y swm yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n ei blannu, bydd wedi’i nodi ar y pecyn)
  3. Ychwanegwch eich label fel eich bod chi’n cofio beth wnaethoch chi ei blannu
  4. Rhowch ddigon o ddŵr i orffen
  5. Cofiwch gadw i roi digon o ddŵr wrth iddo dyfu
  6. Mwynhewch eich planhigyn cartref
Facebook
Twitter
LinkedIn
WhatsApp
Email