Coronau dail

Gweithgareddau cartref: – Coronau dail

Offer angenrheidiol –

  • Cerdyn
  • Siswrn
  • Glud/tâp dwy ochr
  • Dail
  • Staplwr

Cam wrth gam –

  1. Ewch y tu allan a chasglwch ddail
  2. Torrwch y cerdyn i’r hyd cywir i fynd o amgylch pen eich plentyn
  3. Drwy ddefnyddio’r glud, gorchuddiwch un ochr o’r cerdyn neu gallwch ddefnyddio tâp dwy ochr
  4. Ychwanegwch eich dail at eich cerdyn
  5. Drwy ddefnyddio ychydig o lud ar hyd pennau eich cerdyn, gludwch nhw at ei gilydd i wneud coron
  6. Gwisgwch hi a mwynhewch eich coron
Facebook
Twitter
LinkedIn
WhatsApp
Email