Pwll Bywyd Gwyllt

Gweithgareddau cartref: – Pwll bywyd gwyllt

Offer angenrheidiol –

  • Hambwrdd/potyn/leiniwr pyllau
  • Adnoddau naturiol – dail, brigau, cerrig, chwyn

Cam wrth gam –

  1. Dewch o hyd i sylfaen, hambwrdd, potyn neu dwll yn y ddaear (cofiwch ychwanegu leiniwr os yw’n dwll) mewn rhywle â chysgod
  2. Gadewch i’r sylfaen lenwi â dŵr glaw
  3. Ychwanegwch eich adnoddau naturiol. Cerrig/creigiau, deunydd coediog, planhigion pyllau
  4. Cadwch lygad ar y bywyd gwyllt sy’n ymweld
Facebook
Twitter
LinkedIn
WhatsApp
Email