Gweithgareddau cartref: – Nythod mwd
Offer angenrheidiol –
- Adnoddau naturiol, mwd, dail, brigau, mwsogl
- Bowlen neu jwg (rhywbeth â gwaelod crwn)
Cam wrth gam-
- Trafodwch pa anifeiliaid sy’n creu nythod, lle gallech chi ddod o hyd i nyth a pham mae angen nythod. e.e. adar, wiwerod neu ddreigiau! Ar y ddaear neu mewn coeden? Ai dodwy wyau neu amddiffyn yw pwrpas y nyth?
- Defnyddiwch eich bowlen neu jwg i helpu i siapio eich mwd yn siâp nyth
Ychwanegwch yr adnoddau naturiol i’r siâp mwd a gwyliwch eich nyth yn datblygu